Croeso i wefan cyngor ein cymuned.

Mae tiriogaeth y Cyngor yn cwmpasu rhan eang o’r hen Sir Feirionydd, o lannau’r Fawddach yn y Gogledd-Orllewin a chefndeuddwr yr Wnion a’r Ddyfrdwy yn y Gogledd-Ddwyrain, gan ddilyn y mynyddoedd tua’r De-Ddwyrain,  sef o Aran Fawddwy hyd at odre mynyddoedd y Gader, ac yna tua chyffiniau Cyngor Tref Dolgellau i’r De. Ucheldir yw’r rhan helaethaf ohono – ardaloedd gwledig a thir digon garw gyda chryn dipyn o fynydd-dir, a’r rhan helaethaf ohono’n ffermydd defaid. Ceir tair cymuned, mewn gwirionedd, o gwmpas y tri phentref: Brithdir, Llanfachreth a Rhydymain, a’r tair wedi’u huno ers peth amser bellach. Bydd y Cyngor yn cyfarfod yn y tri lle yn eu tro. Yn ôl yr arfer yn y blynyddoedd a fu ceid nifer o ystadau a’u plastai. Y bwysicaf o ddigon o’r ystadau hyn oedd Nannau, ond yr oedd hefyd amryw o rai llai. Erbyn heddiw mae hyn i gyd wedi newid, a’r trigolion yn berchen ar eu tai a’u ffermydd a’r hen blastai wedi eu cymhwyso at ddefnydd gwahanol. Erys Plas Nannau yn drist a gwag.

Dylid nodi rhai nodweddion o bwys o fewn ffiniau’r Cyngor, yn y gorffennol ysywaeth: mwynfeydd Glasdir (copr), Ceunant Hyll (aur), Ffatri Laeth Rhydymain, a fu’n gynhaliaeth i lawer. Ger pentref y Brithdir mae olion hen gaer Rufeinig (eithaf pwysig fe gredir) a leolwyd yn ganolog i’r tair caer arall ym

Meirionnydd, sef Trawsfynydd (Tomen y Mur), Llanuwchllyn (Caergai) a Phennal  (Cefn Caer). Erbyn heddiw y prif ddiwydiannau yw amaethyddiaeth a hoedwigaeth, ond  nid i’r un graddau o gynnal gweithwyr ag y buont.

Yn y tudalennau hyn cewch drosolwg o’r hyn mae’r cyngor yn ei wneud ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol am yr ardal.

Go to top